Friday, 25 July 2014

EICH GWAHODDIAD I GROGFA - WELCOME TO AN HANGING.



Eich Gwahoddiad I Crogfa
Mae ‘Adran Dros Gyfiawnder Senedd Glyndwr’ yn eich croesawu i achlysur crogi’r lleidr tir ac anodau sef…
 
Y Cythraul Beaufort Ddrwg, Dug Gwlad yr Haf,
Bonheddwr o Sais a Landlord Absennol.
Y Cyhuddiad
Iddo ef, a’i gyndeidiau o’i flaen, feddiannu miloedd o aceri tir y Cymry drwy Forgannwg a Gwent yn anghyfreithlon ac, yn ogystal, iddo ef a’i gyndeidiau ormesu, gorthrymu ac ymelwa ar gymunedau ac adnoddau cymunedol y Cymry ar y tir a ddygwyd, ar hyd y canrifoedd hyd at y presennol.
 


  

Cyflawnir y dienyddiad ar Groesffordd Bryn Barcud Coch, ar Dir Comin Bryn Bach, yng Nghymuned Mawr, Gogledd Abertawe (gweler y map isod) yn ystod wythnos gyntaf Mis Awst 2014 a chroesawir eich presenoldeb i fod yn dyst i’r cyfiawnder fydd, o’r diwedd, yn cael ei wireddu drwy’r weithred o grogi’n (symbolaidd) hen dirfeddiannwr sydd heddiw yn cynllwynio gyda RWE (Meistri Ffermydd Gwynt) a’r ‘Senedd Bypedau’ ym Mae Caerdydd i draddodi gweithred o frawychiaeth TAN 8 ar hyd a lled y saith bryn sydd yng nghymuned Mawr, drwy adeiladu Fferm Wynt enfawr ar Fynydd y Gwair ynghyd â ffordd i drosglwyddo’r tyrbinau ar gyfer y Fferm Wynt.


Yn rhannol, mae’r grogfa yma’n achlysur gwleidyddol difrifol ond fe all y rhai ohonoch sydd am wneud hynny, wisgo yng nghyfnod y 18fed ganrif fel modd o gyfrannu i ‘Theatr Agit Prop Awyr Agored Radicalaidd’ o’r weithred. Gellir gwneud hyn, os dymunir, fel modd o dalu teyrnged i ‘Pobl Ceffyl Pren’ y ddeunawfed ganrif, y sawl a arferai ymladd yn erbyn cau tiroedd comin ac anghyfiawnderau eraill. Dylid cofio fod ein pobl wedi brwydro yn erbyn gormes, gorthrwm ac ecsploetiaeth am ganrifoedd wedi cyfnod y Deddfu Uno a bu i lawer ohonynt gael eu carcharu, eu hallfudo a’u crogi am eu hymdrechion. Os am fwy o wybodaeth parthed hyn, gweler y blog ‘Cymrwch y Tir yn ôl ar y we. Mae’r amser wedi dod i ‘dalu’r pwyth yn ôl’,  petai dim ond mewn ffurf ‘Theatr Radicalaidd’ fydd, yn obeithiol, yn fodd o ysgogi gwladgarwyr i fod yn ‘Pobl Glyndŵr a Partisaniaid Cymru ac i  ymuno â ni yn y frwydr bresennol sy’n cymryd lle yn Mawr yn erbyn ‘Ymddiriedolaeth Gwlad yr Haf’  a’r RWE. Am ragor o wybodaeth, gwelwch flogiau Galwad Glyndwr, Tarian Glyndwr, Partisan Cymru, Yr Aflonyddwch Mawr a ‘Campaigns Cymru’. Mae’r cyfan ar y we.
 ******************************************
Welcome

By Invitation of Justice Department of

Senedd Glyndwr, you are welcomed to the hanging

Of the Highway Land and Resources Robber

‘Bad Beaufort’

The Duke of Somerset

English Aristocrat & Absentee Landlord
 
Indictment
The Illegal possession of our land throughout Morgannwg and Gwent, A family history of three centuries of Tyranny, oppression and exploitation of Welsh People, their Communities and Resources.

 

 


 

Execution to take place at the Bryn Barcud Goch Cross Road on Bryn Bach Common, Mawr, during the first week of Mis Awst 2014. You are welcome to attend as witness to justice at last being visited on an ‘Old Conquistador’ who at present, with RWE Windmill Masters ‘New Conquistadore’, are conspiring with the WAG ‘Pupppet Parliament’ to commit an act of  ‘Tan 8 Terrorism’ over the Seven Hills of Mawr in construction of a Turbine Transport Road and Wind Farm on  Mynydd y Gwair.

 
Tarian Glyndwr

Information
 



This Hanging is, in part, a serious Political event but may be participated in as a radical ‘1831 Alive’ Agit Prop Open Air Theatre event and thus, if you wish, you may come dressed in period in homage to the 18th Century ‘Pobl y Ceffyl Pren’ (People of the Pitchfork resistance to land enclosures and capitalist Corn thieves) Keep in mind that for much of the post Act of Union centuries up to 1848, our people resisted tyranny, oppression and exploitation and a great many were imprisoned, transported and publically executed - as was the fate of both Samuel Hill and Aaron Williams in Cardiff in 1801. (See Blogs Pitchfork & Pike also Cymrwch y Tir Yn Ôl) We say it is ‘payback time’ if only in the form of some radical theatre but, with serious intent - to motivate and mobilise patriots to be Pobl Glyndŵr and Partisns Cymru and join with us in a present day Resistance Struggle on Mawr against the RWE Road and ‘Somerset Trust’ Mynydd y Gwair Wind Farm. For further Information, see blogs Galwad Glyndŵr, Tarian Glyndŵr, Partisan Cymru, Yr Aflonyddwch Mawr and Campaigns Cymru.

 
Hwyl!
 

Siân & Gethin.