Saturday 19 May 2012

MAE ANGEN DEDDF TIR OS AM ALLU AMDDIFFYN CYMRU.

Erthygl ar gyfer  Y Cymro 18 Mai 2012.

All rhywun ddim rhoi’r newyddion ‘mlaen o gwbl y dyddiau yma heb glywed y diweddara diflas fod rhyw gwmni cyfalafol fyd eang wedi derbyn caniatâd cynllunio i godi Fferm Wynt arall rhywle yng Nghymru a hyd y gwela’ i, mae’r caniatâd yma’n cael ei rhoi, bron bob tro, er gwaethaf y gwrthwynebiad lleol i’r datblygiadau erchyll yma. Cymrwch achos Mynydd y Betws er enghraifft, lle'r oedd yna 473 o lythyrau wedi eu gyrru mewn gwrthwynebiad i godi’r Fferm Wynt yno a dim ond 95 o blaid - a hynny er gwaethaf yr ymdrech arferol sy’n cyd-fynd â chodi melinau gwynt, sef i lwgrwobrwyo’r gymuned. Mewn trefn ddemocrataidd, byddai’r ffaith fod y mwyafrif yn y gymuned yn wrthwynebus i’r Fferm Wynt wedi bod yn ddigon i rwystro’r datblygiad rhag mynd yn ei flaen yn syth ond, ysywaeth, gellir edrych ar Fynydd y Betws fel enghraifft glasurol arall nad yw democratiaeth a hawliau’r bobl yn cyfrif am ddim lle mae’r efeilliaid dieflig, ‘chwant a chyfalafiaeth’, yn bresennol.

 Erbyn hyn, mae’r cynllun diweddara newydd ei gyhoeddi, i godi 76 o dyrbeini, pob un ohonynt yn 475troedfedd o daldra (y talaf drwy Gymru a Lloegr mae’n debyg) ym Mhen y Cymoedd yn Nê Cymru - a hynny ar stad o goedwigaeth sydd o dan ofal ein “Senedd” ym Mae Caerdydd - i fod,  ond, er gwaethaf hynny, ac er gwaethaf y gwrthwynebiad lleol yn yr achos yma eto,  Charles Hendry, Ysgrifennydd Dros Ynni San Steffan oedd a’r fraint i benderfynu bod Pen y Cymoedd i’w rheibio unwaith eto er mwyn darparu egni ar gyfer Lloegr - pan fydd y tyrbeini yn troi hynny yw! .

Byddech yn tybio y byddai’r math weithred anystyriol tuag at ddymuniadau pobl Pen y Cymoedd a’r ymddangosiad amrwd o amarch a sarhad tuag at ein “Senedd” drwy wrthod iddi’r hawl i wneud penderfyniadau o’r math yng Nghymru wedi sbarduno’r gwleidyddion yn y “Senedd Gymreig” i ruthro’n un llais i amddiffyn Pen y Cymoedd rhag y math ddatblygiad, ond na, unwaith eto, dim smic oddi wrth unrhyw un ohonyn nhw - o unrhyw blaid! Mae’r distawrwydd byddarol yma o Fae Caerdydd yn profi unwaith eto fod ein “Senedd Gymreig” yn rhy lywaeth o lawer i amddiffyn ein gwlad a’n cymunedau rhag y fath rheibio - ac oherwydd, mae cynifer ohonom, sy’n wirioneddol yn pryderu am ddyfodol Cymru fel cenedl, wedi dod i’r casgliad iddi fod yn hen bryd cychwyn ymgyrch am ‘Ddeddf Tir i Gymru’ i, yn y lle cyntaf, amddiffyn yr hynny o dir ac anodau naturiol sydd gennym ar ôl ac yn ail, i adfeddiannu’r tir sydd wedi ei ‘ddwyn’ oddi ar y Cymry ers i’r Eingl Normaniaid gyrraedd yn yr Oesoedd Canol cynnar.
.
Fel man cychwyn i’r ymgyrch, mae’n rheidrwydd, wrth gwrs i gynnal ychydig o waith ditectif i ddarganfod pwy oedd y teuluoedd barwnol cynnar hynny a fu’n prysuro’u hunain yn meddiannu tiroedd gorau Cymru wrth orfodi’r Cymry i symud i’r tiroedd mwyaf llwm. Mae’r enwau’n ddiddiwedd a does mo’r lle mewn erthygl fel hyn i fynd i unrhyw ddyfnder ond gellir crybwyll ambell enw fel y Beauforts sy’n “berchen” rhannau helaeth o dir - o Gŵyr (yn cynnwys Mynydd y Gwair) hyd at yr Hafren o hyd. Gyda llaw,  Bu i Dug presennol y teulu yma orfodi Cyngor Dinas Abertawe i dalu £281,431 iddo yn ddiweddar am yr hawl i adeiladu pont fechan dros yr Afon Tawe gan mae ef yw “perchennog” gwely’r afon! Yna, ceir y Cawdors, bu’n “berchen” ar Mynydd y Betws a rhannau helaeth o Sir Gar, Y Bulkeleys,  Y De Clares, y Mortimers, y Fitzalan’s ac, wrth gwrs, Coron Lloegr, y lladron mwyaf oll, a ddygodd ein gwlad i gyd yn y cyfnod rhwng  1282 - 84 -  ac maent yn parhau a’u gafael ar ran helaeth o dir Cymru hyd heddiw - fel yn Llys Dymper, Llanllwni, Cilfaesty, Mynyddoedd Neuadd Goch, Rhyl a Mynyddoedd Pumlumon lle bu iddynt brynu 2,929 o aceri yn 1980. A beth yw’r elfen gyffredin gyda’r safleoedd yma i gyd, meddwch chi? Ia,  unai mae ‘na Fferm Wynt arnynt yn barod neu, mae ‘na chais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer plannu un!
.
Gweler y ddolen gyswllt canlynol i ddarllen dogfen ddiddorol du hwnt ar ‘bortffolio ‘Stad y Goron’ yng Nghymru,  <http://www.assemblywales.org/11-046.pdf>  Un o ddogfennau’r Cynulliad Cymreig yw’r ddogfen yma ac er i Blaid Cymru nodi ynddi eu bod am i Stad y Goron ddod o dan berchnogaeth y Cynulliad Cymreig fel bod yr elw a wneir o’r stad yn cael ei ddefnyddio er budd pobl Cymru, tydi nhw ddim, hyd y gwelaf i, wedi gwneud dim ymhellach i wireddu hynny ers i’r ddogfen gael ei chyhoeddi dros flwyddyn yn ôl ac, yn y cyfamser, mae Stad Coron Lloegr yn parhau i ‘gipio’ tir yng Nghymru er, trwy ei brynu'r dyddiau yma yn hytrach na thrwy ei ddwyn.
.
Yn ddiweddar, ceisiais osod deiseb ar dudalen deisebau’r “Senedd Gymreig” fel modd o dynnu sylw a denu cefnogaeth y cyhoedd i’r  ‘Ymgyrch Deddf Tir I Gymru’ ond derbyniais neges yn ôl yn datgan…”Rydym ond yn gallu derbyn deisebau ar bynciau sydd yn dod o fewn pwerau Llywodraeth Cymru”  Wel, dyna syndod! Y gwir amdani Plaid Cymru, yw mai geiriau gwag yw bloeddio am ‘annibyniaeth’ os nad oes gennym llwyr reolaeth dros ein tir - ac os nad yw’r gallu gennym i drosglwyddo’r tir yna’n ôl i’r perchnogion traddodiadol cywir sef, ein pobl, fel eu bod nhw yn gallu byw arno a gwneud bywoliaeth ohono.
.
Erbyn hyn, gellir cael hyd i’r ddeiseb am ‘Ddeddf Tir i Gymru’ ar y we yn y ddolen gyswllt canlynol: <http://www.gopetition.com/petitions/land-act-for-wales.html> a gofynnir i bawb drwy Gymru benbaladr a thu hwnt, yn cynnwys arweinyddion Plaid Cymru, i’w harwyddo os ydych yn credu mewn cyfiawnder. Y cam nesaf fydd i lansio’r ‘Ymgyrch Deddf Tir i Gymru’, yn swyddogol, mewn cynhadledd fydd yn cael ei chynnal ym Maenclochog, Sir Benfro ar y 14eg o fis Gorffennaf eleni. Wedi’r gynhadledd, cynhelir ‘Rali Tir a Ryddid’ ger cofeb Waldo fel cydnabyddiaeth o’r safiad llwyddiannus a wnaed yn erbyn ‘cipio’r tir ar fynyddoedd y Preseli yn y 1940au. Cyhoeddir manylion llawn yn Y Cymro yn ogystal ag yn ein hamrywiaeth o flociau ac yn ein ffilmiau byr ar YouTube maes o law.
.
Siân Ifan