Monday 23 April 2012

Pwy sy'n haeddu eich pleidlais mewn etholiadau yng Nghymru?

Llythyr i Bapur Newydd Y Cymro 20 Ebrill 2012


YMLADD SEDD ‘WARD MAWR’, ABERTAWE YN ETHOLIADAU LLEOL MAI 3YDD 2012.
.
 Y datblygiad diweddaraf yw bod Swyddfa Plaid Cymru Rhydaman wedi roi gwybod i ni fod y Blaid am gyflwyno Linda Frame i sefyll fel ymgeisydd yn Ward ‘Mawr’, Abertawe. Bydd Linda, yn ôl y deall, yn cefnogi’r Ward yn eu safiad yn erbyn gosod Fferm Wynt enfawr ar Fynydd y Gwair yn ogystal a chefnogi’r gwrthwynebiad i gynnig datblygu  MA008 sydd ar hyn o bryd gerbron Cyngor Abertawe. Cynnig ar gyfer codi stad o , o leiaf, 12 o dai ar dir yn Craig Cefn Parc yw’r cynnig yma a gyflwynwyd gan Ioan Richards sef,  y Cynghorydd Sir presenol ar gyfer Ward Mawr a’r person sy’n berchen ar y tir dan sylw yw’r cais yma, a phetai’r cais yn cael ei ganiatau, byddai hyn yn golygu mewnlifiad ychwanegol o fobl dwad i’r ‘Graig’, rhywbeth nad yw’r trigolion Cymreig am ei groesawu gan bod cnwd mawr o fobl dwad wedi mewnfudo i’r ardal yn barod. Mae’r cais am ganiatad cynllunio (a gyflwynwyd gan Dug ‘Gwlad yr Haf’) i osod Fferm Wynt enfawr ar Fynydd y Gwair wedi ei rhwystro - am y tro ond, heb amheuaeth, bydd cais newydd am ganiatad cynllunio yn cael ei gyflwyno ar gyfer safle newydd ar y mynydd. Felly, mae’n ofynnol i gadw llygad barcud ar y sefyllfa a bod yn barod i barhau a’r frwydr
.
Cyn i Blaid Cymru gadarnhau fod Linda Frame am sefyll fel ymgeisydd, roedd Dr Myron Evans, gwladgarwr arall sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sydd wedi ei eni a’i fagu yn Nghraig Cefn Parc am sefyll. Mae Myron yn fab i lowr ac yn ganddryll yn erbyn ‘ffolineb’ y melinau gwynt ac unrhyw ddatblygiadau ‘di-angen eraill fel rhai MA008 sy’n mynd i effeithio mewn modd trychinebus ar ei famwlad a’r iaith a diwylliant Cymraeg, ond gan fod Linda Frame, yn ogystal, yn wrthwynebus i ddatblygiadau tebyg yn yr ardal, bu i Myron gytuno i beidio a sefyll er mwyn osgoi rhannu’r bleidlais. Yn hytrach, mae Myron rwan am drosglwyddo ei gefnogaeth a chanolbwyntio ei egni  ar gynorthwyo Linda yn ei hymgyrchu hi.
.
Roedd Llysgenhadaeth Glyndŵr (sydd hefyd, wrth gwrs, yn wrthwynebus i godi melinau gwynt a datblygiadau eraill di-angenrhaid yn unrhyw le ar dir Cymru) wedi bwriadu ymgyrchu dros Dr Myron Evans yn y ras etholiadol yma ond rwan, gan fod Myron wedi tynnu allan o’r ras, rydym am ymyno ag ef i gefnogi Linda Frame – ac os ydych yn byw yn ardal Abertawe ac am wneud yr un peth, gellir cysylltu a Carl Harris yn swyddfa Plaid Cymru yn Rhydaman (01269 597677) i gynnig eich cymorth.
.
I ddweud y gwir, mae’r Llysgenhadaeth yn galw ar pob gwladgarwr/Wraig sy’n byw yn ardal Abertawe i ymgasglu o gwmpas  Linda rwan i ganfasio o ddifrif ar ei rhan er mwyn ennill y sedd yma gyda mwyafrif clir. Dewch i ni wneud ymdrech arbennig i wneud yn hollol siwr fod pawb sydd a’r hawl i bleidleisio yn Ward Mawr yn dod allan i bleidleisio i Linda. Dewch i ni wneud yn siwr fod ein neges yn mynd allan yn uchel ac yn glir i Lywodraeth San Steffan, y Cynulliad Cymreig ac i bob Ysbeiliwr Cyfalafol barus fel Dug ‘Gwlad yr Haf’, nad ydym am ganiatau rhagor o rheibio a dinistr ysglyfaethus yn ein mamwlad.
.
Dewch i ni sefyll yn unedig fel cenedl i ddatgan yn glir ac yn uchel nad ydym am ganiatau mwy o anrheithio ac ecsploitiaeth ar Gymru a’i adnoddau naturiol (fel ein dŵr) mewn unrhyw ffurf a dewch i ni, fel cenedl ac un llais uchel unedig, ddangos yn glir nad yw’n fwriad gennym y tro yma i sefyll yn fud ac yn ddiymadferth a chaniatau i wleidyddion, boed iddynt fod yn Aelodau Senedd Lloegr, Aelodau Senedd Ewrop, Aelodau’r Cynulliad Cymreig neu aelodau o Lywodraeth Lleol, i  cyd-gynllwynio â’r cyfalafwyr cydwladol hynny sydd a’u bryd ar ysbeilio ac ecsploitio cymunedau ein mamwlad.
.
Rydym yn ffyddiog bod y mwyafrif o selogion Plaid Cymru wedi ymuno a’r Blaid honno am eu bod am weld Cymru, nid yn unig yn goroesi, ond yn tyfu ac yn aeddfedu i fod yn genedl cref a hyderus gyda rheolaeth llwyr dros ei hadnoddau. Maent am weld Cymru yn ffynnu mewn cyfoethogrwydd fel canlyniad i’r rheolaeth llwyr yma, ac maent am weld Cymru’n genedl sydd a’r gallu i ddefnyddio’r elw a ellir ei wneud o’n hadnoddau i ddarparu bywyd gwell a chyfartal i bawb o fewn ein cymunedau Cymreig.
.
Rydym yn credu fod gan y mwyafrif o aelodau Plaid Cymru affinedd cryf a’r amcanion uchod a dyna paham mae’n dyngedfennol fod Plaid Cymru yn dangos parch tuag at yr affinedd yma drwy arwain yr aelodaeth a’r gweddill o Gymru mewn Ffrynt Unedig i, yn y lle cyntaf, rhwystro’r Cyfalafwyr fyd eang a Meistri’r Melinau Gwynt rhag dinistrio Cymru’n llwyr. Ar yr un pryd, mae’n dyngedfennol eu bod yn canolbwyntio ar ymuno’r genedl i frwydro dros ein hawl i rheoli ein adnoddau cynhenid yn gyfangwbl er budd ein pobl.
.
Synnwyr cyffredin fyddai i unrhyw blaid cenedlaethol ymladd etholiadau, boed iddynt fod yn lleol neu cenedlaethol, gyda’r amcanion uchod yn sylfaen annatod i’w maniffesto etholiadol – ac rydym ni yn Llysgenhadaeth Glyndŵr nawr yn annog Dinasyddion Cymreig drwy Gymru benbaladr i gefnogi dim ond  yr ymgeiswyr hynny fydd wedi cynnwys yr amcanion sylaenol hyn fel rhan annatod o’u hymgyrch etholiadol.
.
Mae Linda Frame wedi cynnwys elfennau ‘Gwrth Melinau Gwynt’ a Gwrth Datblygiadau Di-angenrhaid yn ei hymgyrch, felly, fe all ymgeiswyr eraill Plaid Cymru mewn unrhyw Ward Etholiadol yng Nghymru gynnwys elfennau tebyg yn eu manifesto etholiadol nhw os ydynt am wneud hynny. Pwysleisir arnoch i rhoi cyn gymaint o gefnogaeth a ellir i’r rhai hynny fydd yn cynnwys yr amcanion uchod yn eu manifesto ond, ar y llaw arall, os na fyddant yn cynnwys yr elfennau pwysig yma yn eu hymgyrchoedd, yna tydi nhw ddim yn gwarchod buddiannau Cymru a byddem yn galw ar i gymunedau osod ymgeiswyr annibynnol yn eu herbyn.
.
Rydym yn barod i gynorthwyo Linda Frame i gymryd Sedd Ward Mawr os bu iddi ddymuno ein cymorth  ac os wnaiff ymgeiswyr drwy Gymru benbaladr rwan sefyll ac ymladd o ddifrif ar yr un materion a Linda, rydym yn ffyddiog y bydd y Blaid yn ennill tir – yn ogystal a llawer mwy o aelodau.
.
Dewch i ni gyd uno a mynd amdani er mwyn ein pobl, ein cymunedau a Chymru.
.
Siân