Thursday 24 November 2011

WYNNE MELVILLE JONES: Llythy'r i'r Cymro 8 - 11 - 2011.

 


Annwyl Olygydd,

Parthed yr adroddiad yn y rhifyn diwethaf o’r Cymro’ a ymddangosodd o dan y teitl ‘Dathlu bywyd tad y diwydiant ynni gwynt’.

Mae’n anffodus bod Wynne Melville Jones wedi bod mor annhosturiol a manteisio ar achlysur marwolaeth y Dr Huws i hyrwyddo’r diwydiant ‘gwallgof’ yma mae ef a nifer bychan o Gymry gwancus yn elwa’n ariannol ohoni. Dwi’n cydymdeimlo a theulu’r Dr Huws yn eu profedigaeth wrth gwrs ond allai ddim caniatáu i Wynne Melville Jones ddefnyddio’r achlysur i hyrwyddo’r ‘gwallgofrwydd’ heb ymateb, gan fod goroesiad ein cymunedau a’n cenedl yn y fantol.

Dwedodd Wynne Melville Jones yn yr adroddiad bod y Dr Huws wedi cofleidio’r dechnoleg o gynhyrchu pŵer o’r gwynt fel cyfrwng “i gyfrannu tuag at leihau allyrron garbon”, ond fel gwnes ddangos mewn erthyglau cynharach a ymddangosodd yn y Cymro yn ystod y misoedd diwethaf, tydi melinau gwynt dim yn mynd i wneud hynny o gwbl oherwydd, yn y lle cyntaf, gall neb rheoli gwynt ac os nad oes digon ohono, ar adegau, i droi’r prop siafftiau, does dim ynni yn cael ei gynhyrchu ac yna, mae’n rhaid defnyddio gorsafoedd pŵer nwy yn ategiad. Yna, os oes gormod o wynt, ar unrhyw adeg, mae’n orfodol i dro’r melinau i ffwrdd ac i ddefnyddio’r gorsafoedd pŵer eto gan nad oes modd cynhaeafu gwynt. Yna, wrth gwrs, mae angen pŵer i gynhyrchu’r tyrbinau yn y lle cyntaf, yn ogystal â thrafnidiaeth drom i’w tywys i’r amrywiaeth o safleoedd ar hyd a lled y wlad. Yna, bydd rhaid cael peiriannau sy’n defnyddio pŵer i ledaenu ffyrdd, i newid llwybrau cylchfannau ac i rwygo lonydd cul a chanol pentrefi er mwyn hwyluso taith yr angenfilod enfawr ‘ma, ac unwaith meant wedi cyrraedd eu cartrefi newydd, bydd angen creu tyllau enfawr yn y tir (a pheiriannau) a’u llenwi a thunelli o goncrid er mwyn sicrhau sylfeini ddigon cryf i ddal melinau a all fod yn 600 troedfedd o daldra! Ac yna, wrth gwrs, bydd angen rhwydwaith o beilonau a channoedd o filltiroedd o geblau i gario unrhyw bŵer a gynhyrchir i’r grid cenedlaethol. Tybed a all Wynne Melville Jones ein goleuo i  gyd ar sut yn y byd mae’r gweithgaredd yna i gyd yn mynd i gyfrannu tuag at leihau allyrron carbon? 

Mae Wynne Melville Jones yna’n son am weledigaeth Dr Huws am “gefn gwlad fel lle i fyw a gweithio yno” I bwy? Pwy ar wahân i’r rhai sy’n elwa’n ariannol o’r melinau gwynt sydd am fyw a gweithio yn eu cysgod, i orfod edrych arnynt o ddydd i ddydd, i ddioddef y sŵn undonog (fel trên sydd byth yn cyrraedd diwedd ei thaith) ddydd a nos, i weld un aderyn ar ôl y llall yn gelain waedlyd ar y ddaear ac i orfod pryderu byth a beunydd os yw’r holl beilonau yn mynd i achosi cynnydd mewn afiechydon fel cancr neu beidio? Na, symud ddigon pell oddi wrthynt bydd pobl am wneud ac mi fydd hynny’n lladd yr hyn sydd ar ôl ar ein cymunedau Cymreig a Chymraeg.

Ac yna, dw’n i ddim pa Gymru mae Wynne Granville Jones yn byw ynddi wrth ddatgan…”Prin iawn i’w tirluniau Cymreig sy’n dangos melinau gwynt ar y gorwel” Rwyf  i - a phawb arall sydd â llygaid yn eu pennau, yn gwybod yn iawn fod y gosodiad yna’n gelwydd noeth ac os caiff ef a nifer bychan eraill o Gymry barus eu ffordd eu hunain, bydd pob un modfedd o fryniau a thir agored Cymru yn llawn o’r bwystfilod hyll, swnllyd a diwerth yma.

Ymddengys bod Wynne Melville Jones yn ystyried Fferm Wynt Mynydd Gorddu i fod yn ‘gofeb anrhydeddus’ i’r Dr Huws, byddwn, fy hunan, yn ystyried y fferm wynt yma i fod yn gofeb i’r holl fynyddoedd a choedwigoedd sydd wedi eu hacio a’u llygru’n ddidrugaredd i wneud lle i’r melinau gwynt a godwyd neu sydd yn y broses o gael eu codi ers Mynydd Corddi. Dewch i fi enwi rhai ohonynt: Llanllwni, Hiraethog, Mynyllod, Y Bettws, Mynydd y Gwair, Tyntyla, Y Portref, Alltwalis, Rhos Wen, Pumlumon, Cefn Croes, Carnedd Wen, Pen y Cymoedd, Coeti, Mynydd Iago, Brechfa, Blaen Bowi, Glyncorrwg a llawer mwy.

 Y gwir amdani yw mai twyll enfawr yw diwydiant y melinau gwynt ac mae Wynne Melville Jones a’r Cymry eraill hynny sydd wedi buddsoddi ynddynt yn gwybod hynny’n iawn ond maent yn barod i weld a chymryd rhan yn ninistr miloedd o erwau o dirwedd dreftadol a ddylai oroesi ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod - ac i be? I lenwi cyfrifon banc y cwmnïau cyfalafol enfawr hynny, sy’n brysur yn ysglyfaethu ar Gymru, ynghyd a’u cyfrifon banc eu hunain! Petai Dr Huws wedi gwireddu ei gynllun i  ddatblygu fferm wynt enfawr arall ar fynydd-dir y canolbarth, byddai ef a’r cwmni cyfalafol estronol enfawr roedd yn cydweithio â nhw wedi elwa’n sylweddol wrth gwrs ond, yn ogystal, byddent wedi dinistrio mannau cysegredig fel ‘Anialwch Gwyrdd Elynydd’ a’i phrydferthwch gwyllt. Byddai gosod fferm wynt enfawr ar Elynydd yn gyfystyr a gosod un tebyg ar safleoedd cysegredig Mach Picchu ym Mheriw, Emei Shan yn Tsieina neu, yn nes at adref, Bryniau Glastonbury.

Dylai ein cymunedau Cymreig ddim bod mewn sefyllfa lle meant yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar ‘friwsion’ o fyrddau’r cyfalafwyr barus yma i ariannu prosiectau a gweithgareddau  cymunedol; yn hytrach, dylai pob cymuned yng Nghymru allu hawlio carfan o’r nawdd ariannol sydd ar gael oddi wrth “llywodraeth Cymru” (ac sydd, ar hyn o bryd yn mynd i bocedai’r datblygwyr) i ddatblygu ynni adnewyddol yn eu cymuned. Byddent wedyn yn gallu, fel cymuned, ddewis sustem ynni adnewyddol sy’n addas ac yn ddigon effeithiol fel bod pawb yn y gymuned yn gallu cael trydan rhad. Yna, gellir defnyddio’r elw a wneir i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau yn y gymuned.

I’r darllenwyr sydd am gael y gwirionedd am wir gost y melinau gwynt i ddefnyddwyr fel chi a fi, byddwn yn awgrymu’n gryf (os na wnaethoch ei weld yn barod) eich bod yn gwylio’r rhaglen Panorama (Tachwedd 7fed) ar BBC1iplayer, mae cynnwys y rhaglen yn agoriad llygad parthed y codiadau allwn i gyd ddisgwyl yn y blynyddoedd sydd o’n blaenau os caniateir i Lywodraeth Llundain fwrw’n mlaen a’r strategaeth ynni ‘gwallgof’ yma. Prin all pobl dalu eu biliau trydan fel y mae. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, gallaf ragweld miloedd yn methu a thalu’r biliau o gwbl, Beth wedyn?

Mae’n rhaid i ni yma’n Nghymru uno’n un mudiad cryf i wrthsefyll ‘terfysgaeth y melinau gwynt’. Peidiwch, da chi, a gadael y frwydr yma yn nwylo mewnfudwyr yn unig.  Ein gwlad dreftadol ni yw Cymru ac arnom ni mae’r ddyletswydd i’w diogelu ar gyfer y cenhedloedd o Gymry sydd i ddod. Dylai Plaid Cymru fod a digon o asgwrn cefn i gyfaddef, yn gyhoeddus, iddynt wneud andros o gamgymeriad i gefnogi strategaeth y ‘melinau gwynt’ a chydweithio â’r cyfalafwyr sydd yn eu codi’n fyddinoedd ar hyd a lled Cymru. Dylent, yn ogystal, gyhoeddi eu bod am arwain y frwydr genedlaethol yn eu herbyn rŵan a dylent fynnu fod y ‘Gronfa Cyfoeth Cymru’ (a soniwyd amdano gan Simon Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni) yn cael ei sefydlu gan “Llywodraeth Cymru” yn syth bin  fel y gall cymunedau Cymru hawlio arian i ddyfeisio eu sustemau ynni adnewyddol eu hunain ac, a thra ati, gweithio tuag at wneud eu cymuned yn gwbl gynaliadwy. Os nad yw’r blaid am ddangos arweiniad, yna’n sicr, meant yn haeddiannol iawn o’r enw PLAID CYWILYDD!

Siân Ifan

“…gwae nyni Gymry,os yw ein llwfdra moesol a’n materoliaeth bwdr y rhown yr hawl yr hawl hon I neb bwy bynnag I sathru ar degwch bro ein mebyd”

Hen Dy Fferm, D.J.Williams 1953


Wednesday 2 November 2011

TRA'N COFIO AM DRYWERYN...PEIDIER ANGHOFIO AM EFYRNWY

Diddorol iawn oedd gweld y rhaglen ‘Taro 9’, a ddarlledwyd ar y 3ydd o Hydref ar S4C, yn trafod  bwriad Hafren Trent i werthu Stad enfawr Efyrnwy i dri chwmni cyfalafol sy’n hanu o du allan i Gymru. Trafodwyd y dadleuon yn erbyn y gwerthiant yn eithaf manwl ar wahân i un pwynt hanfodol pwysig a hynny yw, nad oedd gan Hafren Trent yr hawl i werthu’r Stad yn y lle cyntaf gan mai ‘dwyn’ y mwyafrif o’r tir arno wnaeth Llywodraeth Lloegr yn 1880 drwy basio deddf a fyddai’n caniatáu i ddinas Lerpwl adeiladu cronfa ddŵr. Cyn hynny, tir comin oedd y tir ac yn ôl cyfraith gynnar Cymru, roedd gan bob Cymro a Chymraes yr hawl i wneud defnydd ohono i hela a physgota ac i adeiladu tai unnos ac ati. Felly,  roedd gan y tir berchennog yn barod sef, y genedl Gymreig ac yn fy nhyb i, mae arno Hafren Trent a Dinas Lerpwl rent am 131 o flynyddoedd am rentu’r tir yn ogystal â budd-dal sylweddol am y biliynau o alwyni o ddŵr meant wedi pibelli o’r gronfa ers 1888.

Dydd Iau diwethaf - yr 20fed o Hydref, bu i gynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Glyndŵr fynychu Cyflwyniad a gynhaliwyd yn Neuadd Cymunedol Llanwddyn. Trefnwyd y cyflwyniad gan Hafren Trent a’r nod, yn ôl eu datganiad i’r wasg, oedd darparu gwybodaeth a lleddfu rhywfaint ar bryderon y cyhoedd parthed y gwerthiant. Roedd sawl cynrychiolydd o Hafren Trent, United Utilities, Cwmni Arwerthiant Frank Knight a’r RSPB yn bresennol yn y Cyflwyniad i ateb cwestiynau ond neb o FIM Forestry & Renewable Investment Management.

Esboniais wrth gynrychiolwyr Hafren Trent a Chwmni Adwerthiant Frank Knight pam nad oedd ganddyn nhw’r hawl I werthu’r Stad o gwbl. Gwnaethant ddim anghytuno ond, yn hytrach, awgrymu iddi fod yn fater I’r llywodraeth ym Mae Caerdydd I lunio deddf ar y mater. Pwynt teg – a gwerthfawr.

Felly, oni ddylai bod ein “llywodraeth” ym Mae Caerdydd yn defnyddio eu pwerau newydd i ddeddfu, i greu deddf a fyddai’n achub Efyrnwy rhag cael ei werthu?  A thrwy ac ynghyd a hynny, yn  mynnu’r tir yn ôl - ynghyd a’r gronfa ddŵr, fel y gallent weinyddu’r Stad, a gwerthiant y dŵr, er budd y genedl, yn hytrach na derbyn y gwerthiant yn hollol lywaeth a bodloni ar lywyddu dros ryw “ymchwiliad” i’r modd mae’r stad yn cael ei werthu?

Gofynnais wedyn i gynrychiolwyr Hafren Trent a Frank Knight, gan eu bod wrthi’n gwerthu’r Stad ac wedi derbyn cynnig gan Gymro lleol a oedd a phrofiad eang mewn busnes, pam na dderbyniwyd y cynnig hwnnw - yn arbennig gan fod y gymuned leol wedi datgan eu cefnogaeth i’r cynnig ? Cytunodd cynrychiolydd Cwmni Arwerthiant Frank Knight bod cynnig a chynlluniau Rhys Jones ar gyfer y Stad yn rai da iawn. Dwedodd yn ychwanegol, “nad oes dim wedi ei naddu mewn carreg eto” yn awgrymu, decini, nad yw’r penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto -  sy’n rhoi amser i Lywodraeth Bae Caerdydd ddyfeisio deddf yn erbyn y gwerthiant hwyrach ac/neu o leiaf i Bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad ymladd cornel Rhys Jones? Datgelodd un o gynrychiolwyr eraill Hafren Trent iddo fod yn synnu nad oedd Dŵr Cymru wedi gwneud cynnig. Ia wir, pwynt da arall, pam na wnaethon nhw?

Mae heddiw yn ddyddiad cofio agoriad swyddogol Tryweryn (28 Hydref 1965) Enghraifft arall o “ddifaterwch llwyr” Llywodraeth Llundain a Dinas Lerpwl tuag at gymuned a’i thrigolion. Mae’r hyn sy’n digwydd yn Efyrnwy yn digwydd i’r gymuned yno am yr ail dro a does run plaid, cymdeithas na mudiad, hyd yma, wedi codi bys bach i rwystro’r gwerthiant gydag ymgyrch gadarn a thrwy  atgoffa Hafren Trent mae Cymru yw wir berchennog Efyrnwy ac nid nhw.

Roedd hi’n bleser o’r mwyaf dros y penwythnos i wylio ychydig ar gynhadledd flynyddol yr SNP  (plaid sydd yn iau na Phlaid Cymru o ychydig o flynyddoedd) a gweld y brif neuadd mor orlawn fel bod rhaid agor ystafelloedd cyfagos i wneud lle i bawb i wrando ar yr areithiau ysbrydoledig. Mae’r SNP yn tyfu o achos eu diffuantrwydd cadarn parthed annibyniaeth i’w cenedl a’u pobl. Maent yn hollol ddiffuant parthed mynnu hawliau dros eu hadnoddau cynhenid gyda'u harweinydd, Alex Salmond, yn datgan “Bod y dyddiau lle mae gwleidyddion San Steffan yn dweud wrth yr Alban beth i wneud a sut i feddwl drosodd”. Beth sy’n bod gyda’n  gwleidyddion Cymreig na allent fod â’r un meddylfryd a’r un hyder i ymdrin â gwleidyddion San Steffan yn yr un modd?  Faint o drychinebau a rheibio ar diriogaeth ac adnoddau ein cenedl, a faint o “ddifaterwch” sydd yn rhaid i’n cymunedau ddioddef cyn i’r gwleidyddion hynny ar ‘blaned La La’ ym Mae Caerdydd ddechrau ennill eu cyflogau o ddifrif drwy frwydro dros ein hawliau fel cenedl i reoli ein hadnoddau ein hunain. Datganodd Helen Mary Jones yn ddiweddar y bydd Plaid Cymru mewn rheolaeth ym Mae Caerdydd erbyn 2016. Dwi’n awgrymu bod Ms Jones yn agor ei llygaid i’r hyn sy’n digwydd o dan ei thrwyn hi a’i phlaid yn y Gymru sydd ohoni cyn gwneud y fath datganiadau twp.  Petai Plaid Cywilydd (Plaid Cymru gynt) yn tynnu eu pennau allan o’r cymylau ac yn mynd ati o ddifrif i warchod Cymru a’ hadnoddau, ac i fynnu hawliau llawn dros yr adnoddau hynny er mwyn gwella safon byw pob unigolyn yn ein cenedl, hwyrach wedyn byddai yna siawns i’r Blaid lenwi eu neuadd cynadleddo mewn ychydig o flynyddoedd ond os na wnânt ddeffro, dwi’n hyderus i broffwydo y byddant mewn niwl o ddifancoll lwyr erbyn 2016.  

Siân Ifan