Sunday 7 August 2011

ABERTHU CYMRU AR ALLOR GWALLGOFRWYDD!

Gellir cael hyd i gyfeithiad Saesneg yn:
http://owain-glyndwr-embassyllysgenhadaeth.blogspot.com/


Diddorol yw gweld fod gan Cwmni ‘Windpower Wales/Ynni Cymru sef, cwmni melinau gwynt Eryl ‘Del Boi’ Vaughan uned ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni. Yno, heb amheuaeth,  i dwyllo mwy o Gymry i gefnogi tyfiant ei bortffolio codi melinau gwynt ‘da i ddim’ ac i lwgrwobrwyo mwy o gymunedau, sefydliadau ac ysgolion Cymreig a’n harian ni!

Y gwir amdani yw y byddai neb yn codi’r ffermydd gwynt aneffeithiol ‘ma oni bai fod yna gymorthdaliadau gwirion o enfawr i’w cael o bwrs y wlad fel anogaeth i gwmnïau datblygu ‘ynni adnewyddadwy’ i’w codi. Mae llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo eu hunain (a ninnau) ar gost aruthrol, i gynhyrchu un rhan o dri o’u cyflenwad ynni o ffynonellau ‘adnewyddadwy’, o fewn y deg mlynedd nesaf  ac er bod yna amrywiaeth o adnoddau ‘adnewyddadwy’ y gellid fod wedi dewis ohonynt fel modd o anelu i gyrraedd y nod, ymddengys mai melinau gwynt yw prif ddewis y  cwmnïau datblygu ‘ynni adnewyddol’ am mai codi melinau gwynt yw’r ffordd hwylusaf a rhatach i gasglu’r “ROC” (Renewable Obligation Certificates) sef y nawdd sydd i’w gael yn flynyddol i bob cwmni sy’n cynhyrchu ynni. Ar hyn o bryd mae yna £400miliwn yn cael ei dalu’n flynyddol mewn ROC ym Mhrydain i’r sawl sy’n codi ac yn cynhyrchu trydan gyda melinau gwynt. Mae hyn yn golygu bod pob un felin wynt sy’n gallu cynhyrchu dros 2MW ym Mhrydain yn cael nawdd o £123,000 - cyn cymryd i ystyriaeth yr elw maent yn ei wneud o werthiant yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn ogystal â budd-dal sy’n  gyfystyr a 100% gwerth y cynnyrch. Felly, fe "all" bob un o’r melinau gwynt yma ennill £500,000 ac mae’r gost yma’n dod allan o’n pocedi ni, rhan ohono mewn modd cuddiedig ar ein biliau trydan, a’r gweddill drwy’r sustem dreth incwm.

Pa fusnes arall fyddai’n cael y fath nawdd am gynhyrchu a gwerthu rhywbeth sydd ddim yn gwneud yr hyn sy’n cael ei addo ar y bocs - ac mae’n gywilyddus fod yna Gymry, rhai sy’n ymwybodol iawn o aneffeithiolrwydd yr anghenfilod metal ‘ma, yn manteisio ar dlodi cymunedau a thlodi cronfeydd sefydliadau Cymreig drwy eu twyllo a’u gwobr wobrwyo i dderbyn y ffermydd gwynt ‘ma yn eu cymunedau heb bryderi dim am y canlyniadau i’r gymuned nac i Gymru. Ac mae’r modd maent yn mynd ati i  wneud hyn yn hynod o sinigaidd a ‘dan-din’. H.y. Os yw un o’r cwmnïau am godi fferm wynt mewn cymuned, maent wedi dysgu, o brofiad, iddi fod yn hanfodol i drefnu cyfarfod cyhoeddus yn y gymuned a sicrhau fod yna ‘wyneb Cymreig’ neu ‘fradwr brodorol’ yno i gyflwyno sioe sleidiau neu ffilm fideo sy’n dangos ychydig o felinau gwynt yn erbyn cefndir o awyr las ar ddiwrnod braf, a ffarmwr yn son am y cymhorthdal blynyddoedd mae ef yn ei dderbyn wrth gael y melinau ar ei dir. Yna, dangosir y ‘cerdyn trympio’, lle cynigir “rhodd ariannol” (sef ein harian ni mewn gwirionedd) i brosiect neu brosiectau cymunedol os caiff y fferm wynt ei gosod yn y gymuned - a bydd gwell siawns i hynny ddigwydd os enillir cefnogaeth y gymuned wrth gwrs.

 Ceir ddim son yn y cyfarfodydd cymunedol yma am yr annibendod fydd yn cael ei greu, am flynyddoedd, ar hyd priffyrdd a lonydd ein gwlad wrth i’r angenfilod enfawr ‘ma gael eu tywys i’w cartrefi newydd ar hyd a lled Cymru. Bydd rhaid lledaenu ffyrdd, newid cylchfannau a rhwygo lonydd cul a chanol pentrefi i wneud lle iddynt. Gweler y safle gwe www.cambrian <http://www.cambrian> - mountains.co.uk  am wybodaeth lawn ac onest (a gaed oddi wrth un cwmni datblygu) parthed yr annibendod sy’n debygol o orfod cymryd lle er mwyn cludo’r melinau ar hyd ffyrdd Cymru.

Does dim son chwaith am y tyllau enfawr fydd angen ei wneud yn y tir, a’r tunelli o  goncrid bydd rhaid tywallt i bob twll er mwyn sicrhau sylfaen digon cryf i ddal melin a all fod yn 600 troedfedd o daldra! A cheir ddim son am y sŵn undonog annioddefol sy’n bodoli ddydd a nos pan mae prop siafftiau, hyd yn oed un o’r melinau yma’n troi - heb sôn am fyddin ohonyn nhw. Ceir ddim son am y ‘golau strob’ sy’n cael ei greu wrth i haul daro ar bob un o’r prop siafftau pan maent yn troi a bod hyn, yn ogystal â’r sŵn annioddefol, yn effeithio ar iechyd pobl.  A cheir ddim son fod yna arolwg wedi amcangyfrif fod yna 350,000 o ystymlod eisoes wedi eu lladd gan felinau gwynt yn ogystal â 21,000 o adar ysglyfaethus a miliynau o adar bach. Ceir ddim son am y peilonau a’r ceblau bydd rhaid eu gosod ar hyd a lled Cymru i drosglwyddo’r ynni a gynhyrchir i grid cenedlaethol Lloegr ac sut all afiechydon fel cancr gynyddu yn sgil hyn a cheir ddim son sut mae’r holl wallgofrwydd yn mynd i drawsnewid Cymru o fod yn wlad hyfryd y gellid ymfalchïo ynddi i fod yn ddiffeithwch marwaidd o felinau gwynt a fydd, mewn amser - unwaith i’r ffynonellau ariannol sychu i fynnu, yn cael eu gadael ar y tir i bydru yn eu gwlâu o goncrit.

Ond yn y cyfamser, o achos nad oes gan ein llywodraeth lipa ym Mae Caerdydd unrhyw reolaeth dros godi melinau gwynt sy’n cynhyrchu dros 50MW o ynni yng Nghymru, ac o achos bod Llywodraeth San Steffan yn benderfynnol o godi 10,000 arall o’r anghenfilod yma ym Mhrydain yn ystod y blynyddoedd nesaf - er gwaethaf y ffaith fod gwledydd eraill yn Ewrop yn rhoi gorau i’w codi,  mae llu o gwmniau ‘eco-gyfalafiaeth’ enfawr fyd eang wedi gweld eu cyfle hwythau i reibio’r coffrau ac wedi troi eu sylw tuag at Gymru fel un o’r gwledydd mwyaf hawdd i’w rheibio. Felly, gweler cwmnïau fel ‘RWE/npower renewables’ sy’n gangen o gwmni Almaeneg RWE/Innology  ac sydd eisoes yn berchen ar fferm wynt Taf Elai ac sydd newydd gael caniatâd (wedi apêl) i godi fferm wynt ar Mynydd y Gwair yng nghyffiniau Abertawe, ‘Scottish & Southern Energy, cwmni sydd a’u bryd ar godi fferm wynt enfawr o 105 o’r melinau mwyaf sy’n bod ar Fynydd Pumlumon a thafliad carreg o safle Hyddgen ble bu i Owain Glyndŵr ennill ei frwydr fawr cyntaf yn erbyn y gelyn yn 1401, y ‘Renewable Development Company, cwmni Albanaidd arall sydd â chyfarwyddwyr Americanaidd ac sydd eisoes wedi codi fferm wynt yng Nghefn Croes - er gwaethaf brwydr hir y trigolion yn ei herbyn am naw mlynedd, ‘Scottish Power Renewables’, sydd a’u bryd ar godi fferm wynt enfawr yng nghoedwigoedd y Dyfnant ym Mhowys. ‘Stratkraf’ y cwmni Norwyaidd enfawr sy’n brysur iawn yn rheibio cenhedloedd bychain drwy’r byd ac sydd wedi prynu cwmni ‘Catamount Cymru Cyf’ allan ac sy’n berchen bellach ar ffermydd gwynt Blaenwern ac Alltwalis ac ar orsaf ynni ‘hydro’ Rheidol wedi iddyn nhw ei hennill ar y farchnad stoc, ac yna ceir ‘United Utilities’ a ‘FIM Sustainable Timber and Energy LP, sydd, ar y cyd, newydd brynu stad enfawr Erfynwy.

Dyna flas, yn unig, o bwy yw perchnogion newydd asedau Cymru a gall y rhestr fynd yn ei flaen gan fod yna 36 0 ffermydd gwynt wedi eu gosod yn barod yng Nghymru ac o leiaf 37 arall ar y ffordd ond dewch i ni droi ein sylw tuag at berchnogion newydd stad enfawr Erfynwy.

Penderfynodd Hafren Trent i ‘werthu’ prydles 125mlynedd ar gyfer daliadau amaethyddol y stad i ‘United Utilities’ a phrydles am yr un cyfnod ar gyfer y goedwig fasnachol i FIM Sustainable Timber & Energy LP. Cwmnïau estronol o Loegr yw’r ddau. Mae’r tir sydd wedi ei ‘werthu’ yn cynnwys gwarchodfeydd natur, ffermydd a chartrefi’r pentrefwyr - sy’n siomedig iawn mai cynigion ‘allanol’ cafodd eu ffafrio yn hytrach na chynnig Rhys Jones, dyn busnes lleol oedd a’i fryd ar gadw’r stad yn nwylo Cymry a’i ddatblygu a’i rheoli mewn modd a fyddai’n creu gwaith i drigolion yr ardal.  Mae trigolion yr ardal, wrth reswm, yn bryderus am ddyfodol eu bywoliaeth a’u tenantiaethau ac wedi’r cyhoeddiad i gadarnhau fod y stad wedi ei ‘werthu’ i estroniaid, galwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod yr union bryderon ond ysywaeth, daeth ddim un cynrychiolydd o Hafren Trent, United Utlities na FIM Sustainable Timber and Energy i’r cyfarfod ac mae't trigolion yn parhau mewn tywyllwch parthed eu dyfodol. Blas o’r ymdriniaeth sarhaus a diystyriol gall y trigolion ddisgwyl mae’n amlwg!

Ond beth yn union mae’r cwmnïau estronol yma’n ei wneud a pham prynu Stad Efyrnwy? Mae ‘United Utilities yn darparu dŵr ar gyfer Ogledd Orllewin Lloegr, felly, dyma enghraifft glasurol o un cwmni dŵr estronol enfawr yn ‘gwerthu’ rhan enfawr o Gymru i gwmni dŵr estronol arall. Ydi Cymru a’r Cymry yn mynd i elwa o’r ‘gwerthiant’ mewn unrhyw ffordd? Na yw’r ateb wrth gwrs; byddem yn parhau i dalu'r treth mwyaf ym Mhrydain am ein dŵr ni'n hunain yn union fel ag y rydym wastad wedi gwneud.  Yna, mae’r prynwr arall sef, ‘FIN Sustainable Timber & Energy LP yn brolio fod ganddyn nhw bortffolio fyd eang o goedwigoedd a Ffermydd gwynt. Felly, does dim rhaid bod yn broffwyd i broffwydo beth yw eu cynlluniau nhw ar gyfer y stad!

Ydi, mae’n anghredadwy fod ein gwleidyddion etholedig, y bobl hynny sydd wedi cael eu hethol i warchod Cymru a’i chymunedau yn caniatáu i’r uchod ddigwydd heb wneud unrhyw fath o safiad. Mae’r cyfan yn fater o goncwest y llyfr siec wedi mynd allan o bob rheolaeth ac os na wnaiff ein gwleidyddion a mudiadau Cymreig ymgyrchu’n gadarn i ddiweddu’r ‘gwerthiant’ mawr fyd eang sy’n cymryd lle ar Gymru yn ddi-oed, bydd yna ddim cenedl a ddim cymunedau Cymreig a Chymraeg ar ôl. Byddem yn ddim byd ond rhyw ‘ased’ bychan ddibwys fydd yn cael ei werthu yn ôl ac ymlaen mewn portffolios ar y farchnad stoc fyd eang. Fydd yna ddim angen llywodraeth ym Mae Caerdydd, ddim pwynt i Blaid Cymru, Llais Gwynedd, Y Blaid Gomiwnyddol Gymreig na mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith, Cymuned a.y.b., i fodoli.

Mae’r busnes o gynhyrchu ‘ynni adnewyddadwy’ yn fusnes enfawr ac mae’r elfen melinau gwynt o’r busnes yn effeithio ar dirwedd a chymunedau ledled y byd yn ogystal â Chymru ond rhag ofn i neb gamddeall, dwi o blaid cynhyrchu ‘ynni adnewyddadwy’  cyn belled a bod hynny’n cael ei wneud ar raddfa gymunedol a thrwy wneud defnydd o adnoddau naturiol y gymuned yn hytrach na thrwy brosiectau ‘twp’ fel ffermydd gwynt sydd ond yn mynd i fod o elw i gyfalafwyr sy’n poeni dim bod eu gweithredoedd yn dinistrio cymunedau a thirwedd hanesyddol ac amgylcheddol y byd.

Polisïau'r Undeb Ewropeaidd sy’n bennaf gyfrifol am y cyrch neo-wladychol newydd yma ar ein cenedl ni. Yr un polisïau Ewropeaidd hynny sy’n gorchymyn bod rhaid adeiladu stadau enfawr o dai ddiangen ar hyd yr A55 yn y Gogledd ar gyfer y ‘symudiad llwythol’ mae Senedd Ewrop yn ‘mynnu’ sydd i gymryd lle o fewn eu hymherodraeth. Ia, un o’r polisïau Ewropeaidd yma oedd yn ‘gorchymyn’ bod yn rhaid i bob gwlad o fewn yr Undeb gynhyrchu ynni adnewyddadwy, ond y gwleidyddion ym Mae Caerdydd oedd yn gyfrifol am ruthro i dderbyn a gweithredu’r polisi heb gwestiynu nac ystyried y canlyniadau hir dymor ar Gymru - ac iddyn nhw mae’r diolch am hwyluso’r ffordd i gwmnïau cyfalafol fyd eang droi eu sylw ar Gymru fel darn o dir i’w ecsploetio a’i goloneiddio â miloedd o felinau gwynt ac mae hyn yn dod a ni at y sgandal fwyaf oll.

Ymddengys bod 40% o goedwigoedd Cymru dan ofal uniongyrchol y Cynulliad Cymreig ac yn eu heiddgarwch i ruthro’n mlaen a pholisi Senedd Ewrop a San Steffan i lenwi Cymru a ffermydd gwynt, aethant ati i ddewis ardaloedd o Gymru a oedd, yn eu tyb nhw, yn addas ar gyfer Ffermydd Gwynt, heb unrhyw ystyriaeth i dirwedd hanesyddol ac amgylcheddol y safleoedd yma i gychwyn - ond yn ogystal, mae 'na goedwigoedd niferus yn yr ardaloedd yma a ddewiswyd ar gyfer y strategaeth TAN8 bondigrybwyll - fel ag y sydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae’r cynulliad yn caniatau i ddatblygwyr melinau gwynt glirio cannoedd o filiynau o’r coed er mwyn gwneud lle i’r melinau gwynt!

Ar wahân i’r ffaith fod ein coedwigoedd yn asedau economaidd gwerthfawr a phwysig, bydd clirio’r coed ohonynt yn newid tirwedd Cymru’n llwyr. Yn ogystal, maent yn hardd yn eu gwylltineb ac yn gynefin i bob math o greaduriaid ac adar, rhai ohonynt yn brin - fel y wiwer goch. Maent yn atyniad i dwristiaid ac i gerddwyr ac yn frith o lwybrau cerdded a merlota sy’n bod ers canrifoedd. Maent yn rhan annatod o’n cenedl ni yn yr un modd ag y mae trwyn yn rhan annatod ar wyneb, ac mae ein gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn eu haberthu ar allor gwallgofrwydd!

Petai hyn yn digwydd yng nghoedwigoedd glaw'r Amazon, byddai pawb a’i gi yn cael eu cythruddo ac yn codi pac i fynd allan yno i achub y goedwig, ond lle mae Cymru yn y cwestiwn, caniateir rhydd hunt i unrhyw un ddod yma i reibio a dinistrio.

Mae ‘Plaid’, wrth gwrs, o blaid codi melinau gwynt, gyda sawl aelod amlwg yn gwneud arian da iawn ar gefnau'r gweddill ohonom, ond mae’n hen bryd i ofyn y cwestiwn mawr, pam nad yw ein Plaid Genedlaethol wedi bod ar flaen y gad yn gwarchod buddiannau, adnoddau a thirwedd dreftadol ac amgylcheddol Cymru? Mae ‘Plaid’ wedi gollwng y ‘Cymru’ o’u henw ers tro felly, ‘Plaid’ i bwy ac i beth ydi hi erbyn hyn? Dwi am gynnig eu bod yn newid yr enw eto, i ‘PLAID CYWILYDD’ o achos mae’n gywilyddus o beth iddyn nhw wedi bod yn llwybro’r ‘siop siafins’ ‘na ym Mae Caerdydd am dros ddeuddeg mlynedd ac wedi bod yn rheoli mewn clymblaid yno am y pum mlynedd diwethaf heb wneud dim i rwystro San Steffan rhag llenwi Cymru â ‘melltith’ y melinau gwynt.  yn hytrach, maent wedi eu cofleidio yn yr un modd maent wedi cyd-fynd a’r cynllun i adeiladu’r holl dai diangen (nad oes modd gan Cymry i'w prynu) ar hyd ffordd yr A55. Maent yn fud parthed y ffaith bod ein coedwigoedd yn cael eu clirio a’r melinau gwynt yn cael eu trywanu i ddaear cysegredig ein gwlad yn eu lle, a gwnaed dim i rwystro stad Efyrnwy rhag cael ei ‘werthu’ i estroniaid cyfalafol.

Os nad yw ‘PLAID CYWILYDD’ yn barod i ymladd "o ddifrif" dros sicrhau bod Cymru yn cael llwyr reolaeth ar ei holl asedau cyn i’r cyfan ddiweddu yn nwylo ysglyfaethus, yna, does dim pwynt iddi fodoli.

Mae tri mis o ymgynghori statudol yn cymryd lle rŵan cyn i’r trefniadau ar gyfer gwerthiant stad Efyrnwy gael eu cwblhau yn yr Hydref. Beth am i ‘BLAID CYWILYDD’ ddangos i’r genedl eu bod o ddifrif ynglŷn â gwarchod buddiannau ac adnoddau Cymru drwy, fel man cychwyn, drefnu rali genedlaethol, , yn Llanwddyn, i ddangos, yn y lle cyntaf, eu cefnogaeth i’r gymuned yno ac, yn ail,  i ddangos i weddill o Gymru eu bod o ddifrif ynglŷn â gwarchod adnoddau Cymru a’u bod am arwain ymgyrch genedlaethol i rwystro’r ‘gwerthiant’ yma i estroniaid rhag mynd trwodd.

Wedi’r cwbl, Tir comin oedd y mwyafrif o stad Efyrnwy cyn i Lywodraeth Lloegr basio deddf yn 1880 a roddodd yr hawl i Gyngor Lerpwl adeiladu’r gronfa ddŵr enfawr yno. Ac er gwaethaf gwrthwynebiad cryf y gymuned, dymchwelwyd eu cartrefi a chwalwyd y gymuned - fel ag sydd wedi digwydd droeon yng Nghymru ers hynny.  Daeth y gronfa ddŵr, a’r stad, i ddwylo Hafren Trent yn 1974, ac maent yn ddigon haerllug i feddwl bod ganddyn nhw’r hawl i’w gwerthu!

Mae’n rhaid trosglwyddo'r neges yn uchel ac yn glir i Hafren Trent, United Utilities a ‘FIM Sustainable Timber & Energy LP’ mae Cymru sy’n berchen ar Stad Efyrnwy ac er gwaethaf y ffaith fod Lerpwl a Hafren Trent wedi bod yn dwyn y dŵr ers 1889, mae’r Cymry a’u bryd ar gymryd y stad a'r gronfa ddŵr yn ôl a does ganddym ddim unrhyw fwriad i dalu iddyn nhw nac i unrhyw goloneiddiwr cyfalafol arall am ein heiddo ein hunain!. Os caiff y cwmniau uchod eu crafangau arni, byddant fawr ddim o amser yn clirio coedwigoedd i wneud lle i ffermydd gwynt - a gall ‘PLAID CYWILYDD’ ddim gadael i hynny ddigwydd eto o bosib?

Mae’n hen bryd iddyn nhw arwain y gweddill o Gymru mewn gwrthsafiad i’r fath rheibio sy’n cymryd lle yng Nghymru a cheisio, o leiaf, a gwarchod yr ychydig sydd ar ôl - yn union fel ag y mae llwyth dewr Indiad y Mapuche yn ei wneud ers blynyddoedd ym Mhatagonia wrth iddyn nhw ymladd brwydrau ffyrnig yn erbyn y cwmni adnewyddadwy mawr ysglyfaethus STRATKRAF ia, yr union gwmni sydd yn ysglyfaethu yng Nghymru erbyn hyn!

Cawn weld os wnaiff ‘PLAID CYWILYDD’ ddod oddi ar y ffens am unwaith ac ymladd o ddifrif i amddiffyn Stad Efyrnwy ac i gael ein hasedau yn ôl ond peidiwch, da chi, a dal eich gwynt mewn gobaith bod hyn yn debygol o ddigwydd, os yw Efyrnwy i’w hachub, mae’n rhaid i  bob mudiad a chymdeithas Gymreig weithredu ar bob ffrynt i  rhwystro’r ‘gwerthiant’. Mae’n Haf, felly beth am i fudiadau Cymreig fynd ati i sefydlu ‘GWERSYLL  AMDDIFFYN’ ar y stad a chynhyrchu digonedd o blacardiau a baneri gyda sloganau addas, fel modd o daro’r neges adref. Gellir yn ogystal gwneud defnydd da o'r amser a dreilir yno drwy cydweithio i adeiladu pentref o ‘dai unnos’ ar y stad a gellir cynnal Gŵyl Roc a Gwerin ‘CYMRYD Y TIR YN ÔL’ fel modd i godi arian ar gyfer yr ymgyrch yma yn ogystal â’r ymgyrchoedd sydd i ddod; o achos mae angen hel y cyfalafwyr melinau gwynt ‘ma allan o Gymru unwaith ac am byth a chychwyn mentrau ynni adnewyddadwy addas yn ein cymunedau, rhai sydd yn nwylo ein cymunedau ac er budd pob unigolyn o fewn i bob cymuned.

Bydd angen ymgyrchu’n gyson yn ystod y blynyddoedd nesaf i rwystro’r melinau rhag cyrraedd y safleoedd sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar eu cyfer, a bydd angen gwarchod ein coedwigoedd rhag unrhyw fygythiadau pellach iddyn nhw.

Pa fudiadau a chymdeithasau Cymreig sydd a'r un gwytnwch â llwyth y Mapuchi i arwain y gad os gwn i? Os na wneir safiad nawr yn erbyn y barwniaid ‘adnewyddadwy’ ysglyfaethus newydd yma, yna, bydd yn rhaid i chwi, rhyw ddydd, edrych i fyw llygaid eich plant a phlant eich plant, a gwybod, i chi aros yn fyd ac yn ddiymadferth a gwneud dim i achub eu treftadaeth. Y dreftadaeth hynny yw Cymru, hwyrach na wnawn ei gwerthfawrogi nes bydd hi wedi darfod a bod.

Siân Ifan

“…gwae nyni Gymry, os yn ein llwfrdra moesol a’n materoliaeth bwdr y rhown yr hawl hon i neb bwy bynnag i sathru ar degwch bro ein mebyd”

Hen Dy Ffarm.
D.J. Williams 1953