Wednesday 2 November 2011

TRA'N COFIO AM DRYWERYN...PEIDIER ANGHOFIO AM EFYRNWY

Diddorol iawn oedd gweld y rhaglen ‘Taro 9’, a ddarlledwyd ar y 3ydd o Hydref ar S4C, yn trafod  bwriad Hafren Trent i werthu Stad enfawr Efyrnwy i dri chwmni cyfalafol sy’n hanu o du allan i Gymru. Trafodwyd y dadleuon yn erbyn y gwerthiant yn eithaf manwl ar wahân i un pwynt hanfodol pwysig a hynny yw, nad oedd gan Hafren Trent yr hawl i werthu’r Stad yn y lle cyntaf gan mai ‘dwyn’ y mwyafrif o’r tir arno wnaeth Llywodraeth Lloegr yn 1880 drwy basio deddf a fyddai’n caniatáu i ddinas Lerpwl adeiladu cronfa ddŵr. Cyn hynny, tir comin oedd y tir ac yn ôl cyfraith gynnar Cymru, roedd gan bob Cymro a Chymraes yr hawl i wneud defnydd ohono i hela a physgota ac i adeiladu tai unnos ac ati. Felly,  roedd gan y tir berchennog yn barod sef, y genedl Gymreig ac yn fy nhyb i, mae arno Hafren Trent a Dinas Lerpwl rent am 131 o flynyddoedd am rentu’r tir yn ogystal â budd-dal sylweddol am y biliynau o alwyni o ddŵr meant wedi pibelli o’r gronfa ers 1888.

Dydd Iau diwethaf - yr 20fed o Hydref, bu i gynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Glyndŵr fynychu Cyflwyniad a gynhaliwyd yn Neuadd Cymunedol Llanwddyn. Trefnwyd y cyflwyniad gan Hafren Trent a’r nod, yn ôl eu datganiad i’r wasg, oedd darparu gwybodaeth a lleddfu rhywfaint ar bryderon y cyhoedd parthed y gwerthiant. Roedd sawl cynrychiolydd o Hafren Trent, United Utilities, Cwmni Arwerthiant Frank Knight a’r RSPB yn bresennol yn y Cyflwyniad i ateb cwestiynau ond neb o FIM Forestry & Renewable Investment Management.

Esboniais wrth gynrychiolwyr Hafren Trent a Chwmni Adwerthiant Frank Knight pam nad oedd ganddyn nhw’r hawl I werthu’r Stad o gwbl. Gwnaethant ddim anghytuno ond, yn hytrach, awgrymu iddi fod yn fater I’r llywodraeth ym Mae Caerdydd I lunio deddf ar y mater. Pwynt teg – a gwerthfawr.

Felly, oni ddylai bod ein “llywodraeth” ym Mae Caerdydd yn defnyddio eu pwerau newydd i ddeddfu, i greu deddf a fyddai’n achub Efyrnwy rhag cael ei werthu?  A thrwy ac ynghyd a hynny, yn  mynnu’r tir yn ôl - ynghyd a’r gronfa ddŵr, fel y gallent weinyddu’r Stad, a gwerthiant y dŵr, er budd y genedl, yn hytrach na derbyn y gwerthiant yn hollol lywaeth a bodloni ar lywyddu dros ryw “ymchwiliad” i’r modd mae’r stad yn cael ei werthu?

Gofynnais wedyn i gynrychiolwyr Hafren Trent a Frank Knight, gan eu bod wrthi’n gwerthu’r Stad ac wedi derbyn cynnig gan Gymro lleol a oedd a phrofiad eang mewn busnes, pam na dderbyniwyd y cynnig hwnnw - yn arbennig gan fod y gymuned leol wedi datgan eu cefnogaeth i’r cynnig ? Cytunodd cynrychiolydd Cwmni Arwerthiant Frank Knight bod cynnig a chynlluniau Rhys Jones ar gyfer y Stad yn rai da iawn. Dwedodd yn ychwanegol, “nad oes dim wedi ei naddu mewn carreg eto” yn awgrymu, decini, nad yw’r penderfyniad terfynol wedi ei wneud eto -  sy’n rhoi amser i Lywodraeth Bae Caerdydd ddyfeisio deddf yn erbyn y gwerthiant hwyrach ac/neu o leiaf i Bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad ymladd cornel Rhys Jones? Datgelodd un o gynrychiolwyr eraill Hafren Trent iddo fod yn synnu nad oedd Dŵr Cymru wedi gwneud cynnig. Ia wir, pwynt da arall, pam na wnaethon nhw?

Mae heddiw yn ddyddiad cofio agoriad swyddogol Tryweryn (28 Hydref 1965) Enghraifft arall o “ddifaterwch llwyr” Llywodraeth Llundain a Dinas Lerpwl tuag at gymuned a’i thrigolion. Mae’r hyn sy’n digwydd yn Efyrnwy yn digwydd i’r gymuned yno am yr ail dro a does run plaid, cymdeithas na mudiad, hyd yma, wedi codi bys bach i rwystro’r gwerthiant gydag ymgyrch gadarn a thrwy  atgoffa Hafren Trent mae Cymru yw wir berchennog Efyrnwy ac nid nhw.

Roedd hi’n bleser o’r mwyaf dros y penwythnos i wylio ychydig ar gynhadledd flynyddol yr SNP  (plaid sydd yn iau na Phlaid Cymru o ychydig o flynyddoedd) a gweld y brif neuadd mor orlawn fel bod rhaid agor ystafelloedd cyfagos i wneud lle i bawb i wrando ar yr areithiau ysbrydoledig. Mae’r SNP yn tyfu o achos eu diffuantrwydd cadarn parthed annibyniaeth i’w cenedl a’u pobl. Maent yn hollol ddiffuant parthed mynnu hawliau dros eu hadnoddau cynhenid gyda'u harweinydd, Alex Salmond, yn datgan “Bod y dyddiau lle mae gwleidyddion San Steffan yn dweud wrth yr Alban beth i wneud a sut i feddwl drosodd”. Beth sy’n bod gyda’n  gwleidyddion Cymreig na allent fod â’r un meddylfryd a’r un hyder i ymdrin â gwleidyddion San Steffan yn yr un modd?  Faint o drychinebau a rheibio ar diriogaeth ac adnoddau ein cenedl, a faint o “ddifaterwch” sydd yn rhaid i’n cymunedau ddioddef cyn i’r gwleidyddion hynny ar ‘blaned La La’ ym Mae Caerdydd ddechrau ennill eu cyflogau o ddifrif drwy frwydro dros ein hawliau fel cenedl i reoli ein hadnoddau ein hunain. Datganodd Helen Mary Jones yn ddiweddar y bydd Plaid Cymru mewn rheolaeth ym Mae Caerdydd erbyn 2016. Dwi’n awgrymu bod Ms Jones yn agor ei llygaid i’r hyn sy’n digwydd o dan ei thrwyn hi a’i phlaid yn y Gymru sydd ohoni cyn gwneud y fath datganiadau twp.  Petai Plaid Cywilydd (Plaid Cymru gynt) yn tynnu eu pennau allan o’r cymylau ac yn mynd ati o ddifrif i warchod Cymru a’ hadnoddau, ac i fynnu hawliau llawn dros yr adnoddau hynny er mwyn gwella safon byw pob unigolyn yn ein cenedl, hwyrach wedyn byddai yna siawns i’r Blaid lenwi eu neuadd cynadleddo mewn ychydig o flynyddoedd ond os na wnânt ddeffro, dwi’n hyderus i broffwydo y byddant mewn niwl o ddifancoll lwyr erbyn 2016.  

Siân Ifan