Llythyr i Bapur Newydd Y Cymro 20 Ebrill 2012
YMLADD SEDD ‘WARD
MAWR’, ABERTAWE YN ETHOLIADAU LLEOL MAI 3YDD 2012.
.
.
Cyn i Blaid Cymru
gadarnhau fod Linda Frame am sefyll fel ymgeisydd, roedd Dr Myron Evans,
gwladgarwr arall sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sydd wedi ei eni a’i fagu yn
Nghraig Cefn Parc am sefyll. Mae Myron yn fab i lowr ac yn ganddryll yn erbyn
‘ffolineb’ y melinau gwynt ac unrhyw ddatblygiadau ‘di-angen eraill fel rhai
MA008 sy’n mynd i effeithio mewn modd trychinebus ar ei famwlad a’r iaith a
diwylliant Cymraeg, ond gan fod Linda Frame, yn ogystal, yn wrthwynebus i
ddatblygiadau tebyg yn yr ardal, bu i Myron gytuno i beidio a sefyll er mwyn
osgoi rhannu’r bleidlais. Yn hytrach, mae Myron rwan am drosglwyddo ei
gefnogaeth a chanolbwyntio ei egni ar
gynorthwyo Linda yn ei hymgyrchu hi.
.
Roedd Llysgenhadaeth
Glyndŵr (sydd hefyd, wrth gwrs, yn wrthwynebus i godi melinau gwynt a
datblygiadau eraill di-angenrhaid yn unrhyw le ar dir Cymru) wedi bwriadu
ymgyrchu dros Dr Myron Evans yn y ras etholiadol yma ond rwan, gan fod Myron
wedi tynnu allan o’r ras, rydym am ymyno ag ef i gefnogi Linda Frame – ac os
ydych yn byw yn ardal Abertawe ac am wneud yr un peth, gellir cysylltu a Carl
Harris yn swyddfa Plaid Cymru yn Rhydaman (01269 597677) i gynnig eich cymorth.
.
I ddweud y gwir,
mae’r Llysgenhadaeth yn galw ar pob gwladgarwr/Wraig sy’n byw yn ardal Abertawe
i ymgasglu o gwmpas Linda rwan i
ganfasio o ddifrif ar ei rhan er mwyn ennill y sedd yma gyda mwyafrif clir.
Dewch i ni wneud ymdrech arbennig i wneud yn hollol siwr fod pawb sydd a’r hawl
i bleidleisio yn Ward Mawr yn dod allan i bleidleisio i Linda. Dewch i ni wneud
yn siwr fod ein neges yn mynd allan yn uchel ac yn glir i Lywodraeth San
Steffan, y Cynulliad Cymreig ac i bob Ysbeiliwr Cyfalafol barus fel Dug ‘Gwlad
yr Haf’, nad ydym am ganiatau rhagor o rheibio a dinistr ysglyfaethus yn ein
mamwlad.
.
Dewch i ni sefyll yn
unedig fel cenedl i ddatgan yn glir ac yn uchel nad ydym am ganiatau mwy o
anrheithio ac ecsploitiaeth ar Gymru a’i adnoddau naturiol (fel ein dŵr) mewn
unrhyw ffurf a dewch i ni, fel cenedl ac un llais uchel unedig, ddangos yn glir
nad yw’n fwriad gennym y tro yma i sefyll yn fud ac yn ddiymadferth a chaniatau
i wleidyddion, boed iddynt fod yn Aelodau Senedd Lloegr, Aelodau Senedd Ewrop,
Aelodau’r Cynulliad Cymreig neu aelodau o Lywodraeth Lleol, i cyd-gynllwynio â’r cyfalafwyr cydwladol hynny
sydd a’u bryd ar ysbeilio ac ecsploitio cymunedau ein mamwlad.
.
Rydym yn ffyddiog bod
y mwyafrif o selogion Plaid Cymru wedi ymuno a’r Blaid honno am eu bod am weld
Cymru, nid yn unig yn goroesi, ond yn tyfu ac yn aeddfedu i fod yn genedl cref
a hyderus gyda rheolaeth llwyr dros ei hadnoddau. Maent am weld Cymru yn ffynnu
mewn cyfoethogrwydd fel canlyniad i’r rheolaeth llwyr yma, ac maent am weld
Cymru’n genedl sydd a’r gallu i ddefnyddio’r elw a ellir ei wneud o’n hadnoddau
i ddarparu bywyd gwell a chyfartal i bawb o fewn ein cymunedau Cymreig.
.
Rydym yn credu fod
gan y mwyafrif o aelodau Plaid Cymru affinedd cryf a’r amcanion uchod a dyna
paham mae’n dyngedfennol fod Plaid Cymru yn dangos parch tuag at yr affinedd
yma drwy arwain yr aelodaeth a’r gweddill o Gymru mewn Ffrynt Unedig i, yn y
lle cyntaf, rhwystro’r Cyfalafwyr fyd eang a Meistri’r Melinau Gwynt rhag
dinistrio Cymru’n llwyr. Ar yr un pryd, mae’n dyngedfennol eu bod yn
canolbwyntio ar ymuno’r genedl i frwydro dros ein hawl i rheoli ein adnoddau
cynhenid yn gyfangwbl er budd ein pobl.
.
Synnwyr cyffredin
fyddai i unrhyw blaid cenedlaethol ymladd etholiadau, boed iddynt fod yn lleol
neu cenedlaethol, gyda’r amcanion uchod yn sylfaen annatod i’w maniffesto
etholiadol – ac rydym ni yn Llysgenhadaeth Glyndŵr nawr yn annog Dinasyddion
Cymreig drwy Gymru benbaladr i gefnogi dim ond yr ymgeiswyr hynny fydd wedi cynnwys yr
amcanion sylaenol hyn fel rhan annatod o’u hymgyrch etholiadol.
.
Mae Linda Frame wedi
cynnwys elfennau ‘Gwrth Melinau Gwynt’ a Gwrth Datblygiadau Di-angenrhaid yn ei
hymgyrch, felly, fe all ymgeiswyr eraill Plaid Cymru mewn unrhyw Ward
Etholiadol yng Nghymru gynnwys elfennau tebyg yn eu manifesto etholiadol nhw os
ydynt am wneud hynny. Pwysleisir arnoch i rhoi cyn gymaint o gefnogaeth a ellir
i’r rhai hynny fydd yn cynnwys yr amcanion uchod yn eu manifesto ond, ar y llaw
arall, os na fyddant yn cynnwys yr elfennau pwysig yma yn eu hymgyrchoedd, yna
tydi nhw ddim yn gwarchod buddiannau Cymru a byddem yn galw ar i gymunedau osod
ymgeiswyr annibynnol yn eu herbyn.
.
Rydym yn barod i gynorthwyo
Linda Frame i gymryd Sedd Ward Mawr os bu iddi ddymuno ein cymorth ac
os wnaiff ymgeiswyr drwy Gymru benbaladr rwan sefyll ac ymladd o ddifrif ar yr
un materion a Linda, rydym yn ffyddiog y bydd y Blaid yn ennill tir – yn
ogystal a llawer mwy o aelodau.
.
Dewch i ni gyd uno a
mynd amdani er mwyn ein pobl, ein cymunedau a Chymru.
.
Siân