Annwyl Olygydd,
Parthed yr adroddiad yn y rhifyn diwethaf o’r Cymro’ a ymddangosodd o dan y teitl ‘Dathlu bywyd tad y diwydiant ynni gwynt’.
Mae’n anffodus bod Wynne Melville Jones wedi bod mor annhosturiol a manteisio ar achlysur marwolaeth y Dr Huws i hyrwyddo’r diwydiant ‘gwallgof’ yma mae ef a nifer bychan o Gymry gwancus yn elwa’n ariannol ohoni. Dwi’n cydymdeimlo a theulu’r Dr Huws yn eu profedigaeth wrth gwrs ond allai ddim caniatáu i Wynne Melville Jones ddefnyddio’r achlysur i hyrwyddo’r ‘gwallgofrwydd’ heb ymateb, gan fod goroesiad ein cymuned au a’n cenedl yn y fantol.
Dwedodd Wynne Melville Jones yn yr adroddiad bod y Dr Huws wedi cofleidio’r dechnoleg o gynhyrchu pŵer o’r gwynt fel cyfrwng “i gyfrannu tuag at leihau allyrron garbon”, ond fel gwnes ddangos mewn erthyglau cynharach a ymddangosodd yn y Cymro yn ystod y misoedd diwethaf, tydi melinau gwynt dim yn mynd i wneud hynny o gwbl oherwydd, yn y lle cyntaf, gall neb rheoli gwynt ac os nad oes digon ohono, ar adegau, i droi’r prop siafftiau, does dim ynni yn cael ei gynhyrchu ac yna, mae’n rhaid defnyddio gorsafoedd pŵer nwy yn ategiad. Yna, os oes gormod o wynt, ar unrhyw adeg, mae’n orfodol i dro’r melinau i ffwrdd ac i ddefnyddio’r gorsafoedd pŵer eto gan nad oes modd cynhaeafu gwynt. Yna, wrth gwrs, mae angen pŵer i gynhyrchu’r tyrbinau yn y lle cyntaf, yn ogystal â thrafnidiaeth drom i’w tywys i’r amrywiaeth o safleoedd ar hyd a lled y wlad. Yna, bydd rhaid cael peiriannau sy’n defnyddio pŵer i ledaenu ffyrdd, i newid llwybrau cylchfannau ac i rwygo lonydd cul a chanol pentrefi er mwyn hwyluso taith yr angenfilod enfawr ‘ma, ac unwaith meant wedi cyrraedd eu cartrefi newydd, bydd angen creu tyllau enfawr yn y tir (a pheiriannau) a’u llenwi a thunelli o goncrid er mwyn sicrhau sylfeini ddigon cryf i ddal melinau a all fod yn 600 troedfedd o daldra! Ac yna, wrth gwrs, bydd angen rhwydwaith o beilonau a channoedd o filltiroedd o geblau i gario unrhyw bŵer a gynhyrchir i’r grid cenedlaethol. Tybed a all Wynne Melville Jones ein goleuo i gyd ar sut yn y byd mae’r gweithgaredd yna i gyd yn mynd i gyfrannu tuag at leihau allyrron carbon?
Mae Wynne Melville Jones yna’n son am weledigaeth Dr Huws am “gefn gwlad fel lle i fyw a gweithio yno” I bwy? Pwy ar wahân i’r rhai sy’n elwa’n ariannol o’r melinau gwynt sydd am fyw a gweithio yn eu cysgod, i orfod edrych arnynt o ddydd i ddydd, i ddioddef y sŵn undonog (fel trên sydd byth yn cyrraedd diwedd ei thaith) ddydd a nos, i weld un aderyn ar ôl y llall yn gelain waedlyd ar y ddaear ac i orfod pryderu byth a beunydd os yw’r holl beilonau yn mynd i achosi cynnydd mewn afiechydon fel cancr neu beidio? Na, symud ddigon pell oddi wrthynt bydd pobl am wneud ac mi fydd hynny’n lladd yr hyn sydd ar ôl ar ein cymuned au Cymreig a Chymraeg.
Ac yna, dw’n i ddim pa Gymru mae Wynne Granville Jones yn byw ynddi wrth ddatgan…”Prin iawn i’w tirluniau Cymreig sy’n dangos melinau gwynt ar y gorwel” Rwyf i - a phawb arall sydd â llygaid yn eu pennau, yn gwybod yn iawn fod y gosodiad yna’n gelwydd noeth ac os caiff ef a nifer bychan eraill o Gymry barus eu ffordd eu hunain, bydd pob un modfedd o fryniau a thir agored Cymru yn llawn o’r bwystfilod hyll, swnllyd a diwerth yma.
Ymddengys bod Wynne Melville Jones yn ystyried Fferm Wynt Mynydd Gorddu i fod yn ‘gofeb anrhydeddus’ i’r Dr Huws, byddwn, fy hunan, yn ystyried y fferm wynt yma i fod yn gofeb i’r holl fynyddoedd a choedwigoedd sydd wedi eu hacio a’u llygru’n ddidrugaredd i wneud lle i’r melinau gwynt a godwyd neu sydd yn y broses o gael eu codi ers Mynydd Corddi. Dewch i fi enwi rhai ohonynt: Llanllwni, Hiraethog, Mynyllod, Y Bettws, Mynydd y Gwair, Tyntyla, Y Portref, Alltwalis, Rhos Wen, Pumlumon, Cefn Croes, Carnedd Wen, Pen y Cymoedd, Coeti, Mynydd Iago, Brechfa, Blaen Bowi, Glyncorrwg a llawer mwy.
Dylai ein cymuned au Cymreig ddim bod mewn sefyllfa lle meant yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar ‘friwsion’ o fyrddau’r cyfalafwyr barus yma i ariannu prosiectau a gweithgareddau cymuned ol; yn hytrach, dylai pob cymuned yng Nghymru allu hawlio carfan o’r nawdd ariannol sydd ar gael oddi wrth “llywodraeth Cymru” (ac sydd, ar hyn o bryd yn mynd i bocedai’r datblygwyr) i ddatblygu ynni adnewyddol yn eu cymuned . Byddent wedyn yn gallu, fel cymuned , ddewis sustem ynni adnewyddol sy’n addas ac yn ddigon effeithiol fel bod pawb yn y gymuned yn gallu cael trydan rhad. Yna, gellir defnyddio’r elw a wneir i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau yn y gymuned.
I’r darllenwyr sydd am gael y gwirionedd am wir gost y melinau gwynt i ddefnyddwyr fel chi a fi, byddwn yn awgrymu’n gryf (os na wnaethoch ei weld yn barod) eich bod yn gwylio’r rhaglen Panorama (Tachwedd 7fed) ar BBC1iplayer, mae cynnwys y rhaglen yn agoriad llygad parthed y codiadau allwn i gyd ddisgwyl yn y blynyddoedd sydd o’n blaenau os caniateir i Lywodraeth Llundain fwrw’n mlaen a’r strategaeth ynni ‘gwallgof’ yma. Prin all pobl dalu eu biliau trydan fel y mae. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, gallaf ragweld miloedd yn methu a thalu’r biliau o gwbl, Beth wedyn?
Mae’n rhaid i ni yma’n Nghymru uno’n un mudiad cryf i wrthsefyll ‘terfysgaeth y melinau gwynt’. Peidiwch, da chi, a gadael y frwydr yma yn nwylo mewnfudwyr yn unig. Ein gwlad dreftadol ni yw Cymru ac arnom ni mae’r ddyletswydd i’w diogelu ar gyfer y cenhedloedd o Gymry sydd i ddod. Dylai Plaid Cymru fod a digon o asgwrn cefn i gyfaddef, yn gyhoeddus, iddynt wneud andros o gamgymeriad i gefnogi strategaeth y ‘melinau gwynt’ a chydweithio â’r cyfalafwyr sydd yn eu codi’n fyddinoedd ar hyd a lled Cymru. Dylent, yn ogystal, gyhoeddi eu bod am arwain y frwydr genedlaethol yn eu herbyn rŵan a dylent fynnu fod y ‘Gronfa Cyfoeth Cymru’ (a soniwyd amdano gan Simon Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni) yn cael ei sefydlu gan “Llywodraeth Cymru” yn syth bin fel y gall cymuned au Cymru hawlio arian i ddyfeisio eu sustemau ynni adnewyddol eu hunain ac, a thra ati, gweithio tuag at wneud eu cymuned yn gwbl gynaliadwy. Os nad yw’r blaid am ddangos arweiniad, yna’n sicr, meant yn haeddiannol iawn o’r enw PLAID CYWILYDD!
Siân Ifan
“…gwae nyni Gymry,os yw ein llwfdra moesol a’n materoliaeth bwdr y rhown yr hawl yr hawl hon I neb bwy bynnag I sathru ar degwch bro ein mebyd”
Hen Dy Fferm, D.J.Williams 1953